Digwyddiadau

Darganfod Storïau: Gweithdy Dweud Stori ar gyfer Dysgwyr Cymraeg

Dydd Sul 25 Mehefin 11am-1pm

Yn Neuadd Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda Gwynedd LL57 3AN

Ymunwch â’r storïwraig, bardd, iaith-garwr, saer geiriau a’r ddysgwraig Jo Munton am fore llawn hwyl o chwarae gyda geiriau a straeon i helpu meithrin eich hyder ymaith o drefn gaeth ystafell ddosbarth. Cewch eich ysbrydoli i fynd heibio’ch ofn, mwynhau eich geiriau a defnyddio eich Cymraeg llafar!

Tocynnau £5. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, archebwch yma.


Hear Us and Hasten

Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, Caernarfon LL55 1SQ

Nos Fercher 5ed Gorffennaf am 7.30yh

Mae Hear us and Hasten berfformiad sydd wedi ei gwreiddio’n ddwfn yn gynefinoedd y perfformwyr, sef tirweddau Mor y Gogledd a Gogledd Cymru.

Wedi ei chreu ar y cyd rhwng dwy o storiwyr ifanc fwyaf addawol Prydain, Ffion Phillips ac Ailsa Dixon, mae’r sioe yn ceisio gwneud synnwyr o bregusrwydd yr hinsawdd a’r naratifau hen a newydd sydd yn taflu cyrff merched ifanc i grafangau a dannedd bwystfilod.

Ond yn fwyaf pwysig, mae’r sioe yn ddathliad o fod yn fyw, yn y foment hon. Fel mae Ffion ac Ailsa yn dweud – mae hi’n driongl; chwedl, pobl, tirweddau, os mae’r cysylltiad rhwng unrhyw un o’r tri yn wan, rydym ni gyd yn dioddef.

Cafodd Hear Us and Hasten ei ddyfeisio gyda chymorth Village Storytelling Centre Glasgow, Tasgadh a chyfarwyddwr creadigol Shona Cowie.

Mi fydd hanner cyntaf y noson gyda storïwragedd eraill sydd yn perfformio yng Ngŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru ‘Beyond the Border’ yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf: Fiona Collins a Gillian Brownson.

Archebwch yma.


RHANNU STORI ym Morthaethwy

Auckland Arms, Water St, Menai Bridge LL59 5DD

Fel arfer dydd Mercher cyntaf y mis o 7.30yh

Croeso i bawb – i adrodd stori, canu cân, chwarae ychydig o gerddoriaeth, darllen cerdd …. neu ond i wrando. 

Ymunwch â ni yn nhafarn yr Auckland Arms ym Mhorthaethwy, sy’n gyfforddus ac yn cynnig dewis eang o ddiodydd alcoholig a di-alcohol.

Bydd y cyfarfodydd nesaf Rhannu Stori ar y 5ed Ebrill, 3ydd Mai, 7fed Mehefin, 5ed Gorfennaf, 6ed Medi, 4ydd Hydref, 1af Tachwedd, 6ed Rhagfyr.

Trowch i fyny!