Amdanon

Trefnir Anadlu gan Claire Mace: digwyddiadau adrodd straeon, cerddoriaeth a chelfyddyd werin yng Ngwynedd, ar Ynys Môn, a thu hwnt.

Mae Claire yn storïwraig, cantores a llysieuwraig o’r Alban sy’n byw ym Methesda, Dyffryn Ogwen, yn yng nghalon Eryri.

Mae Claire yn adrodd straeon yn Gymraeg ac yn Saesneg, sy’n tynnu ar fytholeg a llên gwerin gyfoethog Cymru, o’r Mabinogi i fywydau’r Seintiau.

Mae hi’n plethu ei gwybodaeth a’i doethineb am berlysiau i frethyn bob stori, gan ddod â phlanhigion y tirwedd yn fyw fel cymeriadau byw yn y naratif.

Mae straeon yn mynd â’r gynulleidfa i fyd arall ac wedyn yn dod â’n nhw yn ôl gyda cyslltiad dyfnach i natur.

Mae ei pherfformiadau yn cyfuno geiriau a chaneon. Mae gwrandawyr yn profi awyrgylch hynafol, defodol ac ymlaciol.

Mae arddull Claire yn gynnes, yn ddigyffro ac yn gadarn, gan dynnu ei chynulleidfa’n ysgafn i mewn i’r stori, ac mae hi’n adrodd hanes Olwen mewn neuadd bentref neu’n canu baled am lofruddiaeth!

Hi yw sylfaenydd Perlysieuwyr Pesda, grŵp cymunedol dwyieithog sy’n ymroddedig i dreftadaeth llysieuol Cymru, ac mae’n arwain gweithdai sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng adrodd straeon, llysieuaeth, a sgiliau traddodiadol. Mae hi’n Cyfarwyddwr Prosiectau gyda’r The House of the West Wind: College of Storytelling.

Mae gynni hi brofiad o beirianneg meddalwedd, cynhyrchu teledu a rheoli theatr, ac mae gynni hi raddau o Brifysgolion yn Efrog a Leeds. Mae hi hefyd yn athrawes ioga brofiadol ac yn cynnal dosbarthiadau ym Methesda ac arlein.

Beth mae pobl yn ei ddweud:

“Mae cynnwys perlysiau o fewn y mytholegol yn dod â’r hynafol i’r presennol, gan blethu’r hynafol a’r modern gyda’i gilydd.”

“Adroddir stori brydferth gyda chynhesrwydd, tawelwch ac angerdd. Da iawn am blethu cymaint o linynnau gyda chymaint o ysgafnder, dyfnder a graslonrwydd.”

“Mae straeon Claire yn gwehyddu ei gwybodaeth fotanegol yn ddi-dor, gan ddod â’r planhigion yn fyw mewn ffyrdd diddorol.”

“Mor hyfryd clywed straeon o’r newydd trwy lygaid benywaidd a doethineb planhigion. Ewch i weld y sioe!”