Noson o Chwedleua efo Cath Little, Fiona Collins, Angharad Owen, Claire Mace a’u gwestion arbennig.
Mae rhai yn dweud fod Elen, tywysoges y tiroedd hyn, wedi bwrw rhwyd freuddwyd i dynnu Ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig yr holl ffordd o Rufain i Gaernarfon, ac yn newid hanes wrth i’i wneud.
Camwch i’r freuddwyd ac ymunwch â chwedlwragedd proffesiynol o bob rhan o Gymru am noson o chwedlau traddodiadol bydd yn cael eu hadrodd yn ddwyiethog.
Trwy gerddoriaeth, cân, a stori, byddwn yn teithio’r llwybrau trwy ein byd a bydoedd eraill, yn clywed chwedlau o’r byd deffro a’r byd breuddwydiol.
Yn addas ar gyfer 11+.
Mae’r perfformiad hwn yn rhan o TAIR: blwyddyn a diwrnod o straeon merched, wedi’i hysbrydoli gan angerdd y chwedlwraig a chantores Esyllt Harker am straeon llai adnabyddus am ferched o’r gwledydd hyn.