TAIR: ELEN
Penwythnos chwedleua yng Nghymru gogledd-orllewin, ar gyfer fenywod
31 Mai – 2 Mehefin 2024
Blwyddyn a diwrnod o straeon merched, wedi’u hysbrydoli gan waith y storïwraig Esyllt Harker.
Crëwyd a pherfformiwyd TAIR: Marched Daear ag Amser gan y storïwr a chantores, Esyllt Harker, yn 2012. I Esyllt, ‘mond dechrau’ y daith oedd y perfformiad hwnnw. Yn anffodus, bu farw cyn iddi allu ei ddatblygu ymhellach.
Nawr, yn 2024, deng mlynedd ers ei marwolaeth, mae Chwedl yn falch o’r cyfle i rannu nodiadau ac ymchwil Esyllt dros dri phenwythnos Tair, yn ymestyn ar draws blwyddyn a diwrnod.
Rydym yn gwahodd gwragedd yma yng Nghymru, a thu hwnt, i ymuno a ni i archwilio a datblygu gwaith Esyllt.
Mae TAIR, yn adrodd straeon tair Cymraes: un o stori, un o hanes ac un o farddoniaeth:
- Elen, wedi ei hanfarwoli yn chwedl y Mabinogi, ‘Breuddwyd Macsen Wledig.’
- Gwenllian, y dywysoges arfog, y mae ei marwolaeth ar faes y gad yn nwylo’r Normaniaid yn rhan annatod o hanes ein Cenedl.
- Heledd, a rhoddodd ei henw i ‘Canu Heledd’, hengerdd hir a chymleth o’r 9fed ganrif.
Bydd ein taith yn cychwyn ar 31 Mai 2024, gyda Cath Little, Angharad Owen a Claire Mace, yn ein tywys i dirwedd stori Elen yng Ngogledd Orllewin Cymru. Cewn wrando ar ei stori, ymweld â safleodd y chwedl, ac archwilio technegau adrodd straeon.
Ar 20 Medi 2024 awn i dde-orllewin Cymru i ymuno ag Angharad Wynne am benwythnos o hanes, stori a seremoni wrth i ni droedio tir llys Gwenllian a maes y gad lle bu farw.
Yng ngwanwyn 2025 mae’r daith yn symud i’r Gororau, i gerdded tir Heledd.
Bydd y siwrne yn dod i ben ar ôl blwyddyn a diwrnod, ar 1 Mehefin 2025, pan fydd cyfle i bawb sydd wedi cymryd rhan i ddod at ei gilydd i ddathlu.
Cewch ddod i’r holl weithdai neu dim ond i un. Mae croeso i bob menyw, ac i rheini sy’n uniaethu fel merch.
MANYLION PENWYTHNOS 1: ELEN
Cynhelir penwythnos ELEN o gwmpas Caernarfon o Ddydd Gwener 31ain – Dydd Sul 2 Mehefin, 2024.
Ar nos Wener 31 Mai am 7.30pm, cynhelir sioe chwedleua ‘Breuddwydio’r Byd Arall’ yn Galeri, LL55 1SQ
Dydd Sadwrn 1 Mehefin 10am-5pm Cynhelir gweithdy adrodd straeon yn yr Adeilad y Cyngor Tref/Instiwt LL55 1AT
Nos Sadwrn 1 Mehefin 7.30pm, bydd Sesiwn Stori Agored yn y Clwb Iotio, LL55 1SN
Dydd Sul 2 Mehefin 10am-1pm byddwn yn camu yn ôl troed Elen ger Betws y Coed / Caerhun yng Nghonwy (gellir rhannu lifft o Gaernarfon).
Bydd hwn yn ofod dwyieithog lle mae croeso i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg.
Bydd angen i chi drefnu lluniaeth a llety yng Nghaernarfon neu mewn maes gwersylla cyfagos. E-bostiwch claire@anadlu.com am rai awgrymiadau.
Os oes gennych chi anghenion symudedd neu anghenion arbennig eraill, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn eich cefnogi orau. Mae lleoliadau dydd Gwener a dydd Sadwrn wedi’u gwasgaru ar draws tref Caernarfon. Os oes gennych chi fathodyn glas, gallwch barcio’n agos at y lleoliadau, fel arall disgwyliwch daith gerdded 5-10 munud o un o’r meysydd parcio swyddogol. Ddydd Sul byddwn yn cerdded ar lwybrau troed gwledig.
Mae tocynnau ar gyfer y penwythnos yn cynnwys yr holl gigs, gweithdai a theithiau cerdded.
Tocyn penwythnos – pris rheolaidd £75
Tocyn penwythnos – pris consesiwn (digyflog, incwm isel) £50
Bydd perfformiad nos Wener yn agored i’r cyhoedd, gan gynnwys dynion a phobl ifanc dros 11 oed. Bydd tocynnau ar gyfer hwn ar gael trwy Galeri (does dim angen archebu tocyn ychwanegol os archebwch ar gyfer y penwythnos) https://www.galericaernarfon.com/