The Beast in Me: sioe chwedleua gyda The Devil’s Violin

Neuadd Goffa Mynydd Llandegai, LL57 4LQ

Nos Sadwrn 25ain Mawrth 7.30pm (drysau’n agor 7pm)

  • Mae milwr anobeithiol yn taro bargen gyda dieithryn dirgel.
  • Brwydr rhwng dau gonsuriwr.
  • Bod nad yw’n ddynol nac yn anifail.

Mae The Devil’s Violin yn ymweld â Mynydd Llandegai gyda The Beast In Me — tapestri diddorol o straeon sy’n cydblethu o amser maith yn ôl.

Ysgrifennwyd a pherfformir The Beast In Me gan un o storïwyr gorau Cymru, Daniel Morden, ac i gyfeiliant soddgrwth Sarah Moody a feiolin Oliver Wilson-Dickson.

Mae’r triawd talentog hwn wedi creu noson swynol, iasol a gwefreiddiol o adloniant o’r cydrannau mwyaf sylfaenol – cerddoriaeth hyfryd a geiriau hudolus.

Ers 15 mlynedd mae’r grŵp wedi creu perfformiadau hudolus, gan syfrdanu cynulleidfaoedd ledled y DU a thu hwnt.

Pa ffordd well o dreulio noson nag yng nghwmni storïwr meistrolgar wedi’i ategu gan gerddorion dawnus?

Dyma gyfle prin i brofi pŵer stori wych wedi’i hadrodd yn dda.

Bydd y sioe hon yn yr iaith Saesneg.

Cefnogir yn hael gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Noson Allan Cymru.

Bydd tocynnau ar y drws yn £12 (£8 consesiynau)